SL(6)740 – Rheoliadau Paneli Maethu a Chynllunio Gofal (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Paneli Maethu a Chynllunio Gofal (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 (“Rheoliadau 2026”) yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) a Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).

Mae Rheoliadau 2018 yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau maethu mewn perthynas â sefydlu paneli maethu a’u swyddogaethau, ac mewn perthynas ag asesu darpar ofalwyr maeth. Mae Rheoliadau 2015 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio gofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, a materion cysylltiedig eraill.

Mae Rheoliadau 2026 yn diwygio Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2015 i:

·         sefydlu categori penodol o ofalwr maeth sy’n berthynas o fewn y rheoliadau maethu;

·         diweddaru’r broses ar gyfer asesu darpar ofalwyr maeth i adlewyrchu gofynion newydd, yn enwedig i’r rhai sy’n berthnasau, yn ffrindiau neu’n bersonau cysylltiedig;

·         diweddaru gofynion ynghylch yr wybodaeth benodol sy’n ofynnol wrth asesu darpar ofalwr maeth sy’n berson cysylltiedig (fel perthynas, ffrind neu rywun sydd â pherthynas sy’n bodoli eisoes â’r plentyn);

·         gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau maethu rannu gwybodaeth â’i gilydd heb gost i gefnogi’r broses benderfynu yn well;

·         darparu bod rhaid ymweld â phlant mewn lleoliadau gyda phersonau cysylltiedig o leiaf bob 6 mis, a darparu ymhellach fod rhaid adolygu’r lleoliadau hynny o leiaf bob 12 mis.

Gweithdrefn

Gweithdrefn annilysu’r Senedd

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Craffu ar Rinweddau   

Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Rydym yn nodi bod y Memorandwm Esboniadol yn amlinellu’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â Rheoliadau 2026. Mae’n datgan y canlynol:

“Cynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos ar y newidiadau arfaethedig rhwng 4 Awst 2025 a 27 Hydref 2025. Hysbyswyd llawer o randdeiliaid allweddol am yr ymgynghoriad gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector, darparwyr maethu annibynnol, darparwyr maethu’r trydydd sector, a gofalwyr maeth.

Cafwyd cytundeb cyffredinol i’r cynigion yn yr ymgynghoriad. Gwnaed un mân newid o ganlyniad i’r ymatebion - cynnwys cyfeiriad at gyflogaeth flaenorol o fewn Rhan 3 newydd o Atodlen 1 i Reoliadau 2018.”

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y bydd Rheoliadau 2026 yn ddarostyngedig i Adolygiad Ôl-weithredu. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan y canlynol:                                                                                                 

“Bydd Adolygiad Ôl-weithredu (PIR) yn cael ei gynnal o fewn tair blynedd i gyflwyno Rheoliadau Paneli Maethu a Chynllunio Gofal (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026. Bydd yr adolygiad yn asesu a yw’r amcanion polisi wedi’u cyflawni, yn nodi unrhyw ganlyniadau anfwriadol, ac yn llywio datblygiad polisi yn y dyfodol. Bydd yn cwmpasu tri maes allweddol: trosglwyddiadau gofalwyr maeth, diwygio asesiadau o ofalwyr maeth sy’n berthnasau, ac adolygiadau ac ymweliadau hyblyg ar gyfer gofalwyr sy’n berthnasau. Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu data meintiol ac ansoddol gan randdeiliaid, gan gynnwys gofalwyr, plant, Swyddogion Adolygu Annibynnol ac awdurdodau lleol. Bydd dangosyddion perfformiad allweddol yn mesur cydymffurfiaeth, effeithlonrwydd, boddhad a chanlyniadau diogelu. Bydd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio yn darparu goruchwyliaeth, a bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio i lywio diwygiadau yn y dyfodol, diweddaru canllawiau, a rhannu arferion gorau ar draws y sector.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

03 Chwefror 2026